R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru i wella'r M4? OAQ(4)2094(FM)
2. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ad-drefnu llywodraeth leol? OAQ(4)2069(FM)
3. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cydymffurfio â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000? OAQ(4)2087(FM)
4. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi perthnasau rhyng-gymunedol cryf yng Nghymru? OAQ(4)2099(FM)
5. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gyfraniad mudiad Clybiau Ffermwyr Ifanc i gymunedau cefn gwlad Cymru? OAQ(4)2085(FM)
6. Alun Ffred Jones (Arfon):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyrhaeddiad addysgol plant yng Nghymru? OAQ(4)2083(FM)W
7. Aled Roberts (North Wales):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro prosesau rheoli'r gweithlu yn y GIG yng Nghymru? OAQ(4)2095(FM)W
8. Sandy Mewies (Delyn):Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae'r ymgyrch Dewis Doeth Cymru wedi'i chael ar y dewisiadau y mae cleifion sy'n ceisio triniaeth yn eu gwneud? OAQ(4)2098(FM)
9. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd y sector adeiladu i economi Cymru? OAQ(4)2090(FM)
10. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i wella canlyniadau iechyd ar gyfer trigolion Canol De Cymru? OAQ(4)2092(FM)
11. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth a roddir gan Lywodraeth Cymru i grwpiau lleol sy'n cymryd y cyfrifoldeb dros gyfleusterau cymunedol? OAQ(4)2097(FM)
12. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu manylion ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad y Grid Cenedlaethol ar Brosiect Cysylltiad Canolbarth Cymru? OAQ(4)2084(FM)
13. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglenni rhoi'r gorau i ysmygu Llywodraeth Cymru? OAQ(4)2082(FM)
14. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru? OAQ(4)2093(FM)
15. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn y gorllewin? OAQ(4)2088(FM)W